Mae’r plant wedi bod yn brysur iawn yn y Cylch yn gwneud gweithgareddau ar thema’r Hydref a Chalan Gaeaf. Cafwyd llawer o hwyl wrth wneud swynion, creu bisgedi ysbrydion a gwneud tasgau yn yr awyr agored – a phawb wrth eu boddau yn chwarae hefo dail yr Hydref.