Annwyl Rieni,
Gobeithio eich bod yn mwynhau’r gwyliau. Rydym yn edrych ymlaen ei ago rei drysau unwaith eto ar Ddydd Mercher yr 2il o Fedi.
I’r rhai ohonoch sydd yn newydd i’r Cylch, rydym yn falch o roi gwybod i chi ein bod yn defnyddio app Famly i’ch diweddaru am amser eich plentyn yn y Cylch.
Mae Famly yn app diogel sy’n ein galluogi i rannu gwybodaeth bwysig gyda chi, gan gynnwys:
Diweddariadau am ddiwrnod eich plentyn
Lluniau a chyfnodau dysgu
Negeseuon a chyhoeddiadau
Gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau’r grŵp chwarae
Biliau misol (rydym yn derbyn taliadau drwy’r app yn unig)
Byddwch yn derbyn gwahoddiad i ymuno â Famly gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost rydych wedi’i roi i ni.
Agorwch yr e-bost gwahoddiad.
Dilynwch y ddolen i greu eich cyfrif.
Lawrlwythwch ap Famly ar eich ffôn neu dabled, neu defnyddiwch Famly ar-lein.
Mewngofnodwch gan ddefnyddio’r manylion a gofrestrwyd gennych. Gwiriwch eich ffolder sothach/spam os na allwch ddod o hyd i’r gwahoddiad.
Mae yno lwyth o wybodaeth ar y dudalen yma ynglyn a sut i ddefnyddio'r app:
https://help.famly.co/en/collections/18529712-get-started
Os ydych yn cael unrhyw broblemau wrth gael mynediad at yr app, gyrrwch neges i e-bost y Cylch (cylchpontygof@gmail.com) a byddwn yn hapus i helpu.
Diolch am eich cefnogaeth!
💛
Dear Parents,
We are looking forward to opeining our doors on Wednesday the 2nd of September.
For those of you who are new to the Cylch, we are pleased to let you know that we use the Famly app to keep you updated about your child’s time at playgroup.
Famly is a secure app that allows us to share important information with you, including:
Updates about your child’s day
Photos and learning moments
Messages and announcements
Information about playgroup activities and events
Monthly bills (we are now only accepting payments via the app)
You will receive an invitation to join Famly using the email address you have provided to us.
Open the invitation email.
Follow the link to create your account.
Download the Famly app on your phone or tablet, or access Famly online.
Sign in using the details you registered with. Please check your junk/spam folder if you cannot find the invitation.
The following link includes lots of information about how to use the app:
https://help.famly.co/en/collections/18529712-get-started
If you have any problems accessing the app, please send an email to cylchpontygof@gmail.com
and we will be happy to help.
Thank you for your support!
💛
Diolch yn fawr i Edwin Humphreys, Stiwdio Pant yr Hwch, am ddod atom i gynnal sesiwn gerddoriaeth hwyliog. Cafodd pawb amser gwych!
Diolch yn fawr i Anni am ddod draw atom i ddarllen stori, chwarae gemau a chanu gyda'r plant. Cafodd pawb amser gwych a llawer o hwyl.
Diolch yn fawr i Natalie Harrison am ddod atom i gynnal gweithdy celf ar thema'r mor. Cafodd y plant amser gwych yn creu campweithiau.
Diolch yn fawr i Ann Williams, sy'n chwarae i dim Pêl-droed Merched Pwllheli ac yn un o hyfforddwyr Clwb Pêl-droed Pwllheli, am ddod atom i gynnal sesiwn bêl-droed gyda'r plant. Bu llawer o hwyl, chwerthin a mwynhad gan bawb.
Ebrill 2026: Mae'r plant yn cerdded milltir bob dydd i godi arian i'r cylch. Ffordd wych o gadw yn heini a chael hwyl.
Mwynhau yn yr awyr agored
Diwrnod y Llyfr
Dathlu Dydd Gwyl Dewi
Garddio
Taith o amgylch pentref Botwnnog
Ar ddydd Sadwrn 18 Hydref, aeth rhai o staff a phwyllgor y Cylch i Wobrau’r Mudiad Meithrin yn y ‘Moody Meadows’ ger Aberaeron. Cafodd pawb lawer o hwyl ac i goroni’r cwbl llwyddodd y Cylch i ennill gwobr y Pwyllgor Gorau, gan dderbyn tlws hyfryd wedi ei greu gan Miriam Jones o Lanengan – braf cael dod â’r wobr nôl i Ben Llŷn.